'If you want to become the best runner you can be, start now. Don't spend the rest of your life wondering if you can do it.' Priscilla Welch
Amdana i
Alaw ydw i, hyfforddwraig rhedeg gymwysedig gyda blynyddoedd o brofiad o redeg ar lefel rhyngwladol wrth gystadlu dros Gymru ar yr heol, trac, traws gwlad a mynydd.
​
Rydw i wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers 2004 gan ennill sawl teitl Athletau Cymru ar hyd y ffordd.
Rwy'n gyffrous i rannu fy mhrofiadau o hyfforddi a chystadlu rwyf wedi'u hennill yn ystod y cyfnod hwn gyda chi.
​
​
Pam dewis fi?
Cyngor
Byddaf gyda chi'r holl ffordd yn rhoi cyngor ar sut i gychwyn, syniadau am rasys a pharatoadau i rasio. Ni fydd unrhyw gwestiwn rhy fawr neu fach.
Personoli
​Mae'r cynlluniau i gyd yn cael eu personoli i ffitio o amgylch eich ffordd o fyw, eich gwaith a'ch bywyd teuluol. Does dim ots am y nodau na'r amser sydd gennych i hyfforddi byddaf yn helpu i greu cynllun pwrpasol ar eich cyfer.
Cymuned
Byddwch yn dod yn aelod o'r gymuned Run with Alaw fydd yn cefnogi ac yn rhannu profiadau gyda'ch gilydd.